|
Ysgol Maes Garmon |

Ysgol gyfun ddwyieithog ydy Ysgol Maes Garmon, ac mae hi’n gartref addysgol i tua 550 o ddisgyblion o bob gallu rhwng 11 a 18 oed. Mewn awyrgylch gartrefol, bydd ein disgyblion yn dilyn cwricwlwm eang, cytbwys a diddorol sy’n berthnasol i’w datblygiad academaidd, galwedigaethol a chymdeithasol. Yn ogystal â nifer helaeth o weithgareddau allgyrsiol, mae traddodiad ym Maes Garmon o ofalu’n dda am ein disgyblion. Mae’n disgwyliadau ni yn uchel ac mae’n disgyblion yn ymateb yn gadarnhaol i hynny o ran safon eu gwaith, ymddygiad, hunan-ddisgyblaeth a hunan-hyder.
Lleolir Ysgol Maes Garmon yng nghanol tref
farchnad fywiog Yr Wyddgrug, canolfan weinyddol Sir y Fflint. Gwasanaetha’r
ysgol y rhan helaeth o Sir y Fflint a daw ein disgyblion atom o ddalgylch
eang iawn o Lannau Dyfrdwy i Ddyffryn Clwyd, o Lanfynydd i Garmel.
rth
deithio o ganol y dref, ar hyd hen ffordd Wrecsam, gwelir Stryd Conwy ar y
dde, ac ar ben y stryd mae safle’r ysgol.